Arbenigwr Technegol Cynorthwyol

Posted 1 July by Reed Talent Solutions
Featured

Register and upload your CV to apply with just one click

Arbenigwr Technegol Cynorthwyol
(canolbwyntio ar wasanaeth Pension Wise)
yn siarad Cymraeg
Cyflog c.£36,600
Parhaol
Mae'r rôl hon yn cynnig gweithio o bell 100% fel y gallwch fod wedi'ch lleoli yn unrhyw le yn y DU
Mae oriau rhan amser ac amser llawn ar gael
 (o leiaf 3 diwrnod yr wythnos)

Mae'r Gwasanaeth Arian a Phensiynau (MaPS) yn helpu pobl - yn enwedig y rhai mwyaf anghenus - i wella eu lles ariannol ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan weithio ar y cyd ledled y DU, rydym yn sicrhau bod  cwsmeriaid yn gallu cael mynediad at arweiniad arian a phensiynau o ansawdd uchel, a chyngor ar ddyledion trwy gydol eu bywydau; sut a phryd maent eu hangen.
...

Cyfrifoldebau allweddol:

Sicrhau bod gwasanaethau o ansawdd yn cael eu darparu i'r cyhoedd o fewn y tîm Gweithrediadau Pensiynau a darparu gwasanaeth Pension Wise y Llywodraeth.
  • Darparu gwybodaeth ac arweiniad pensiwn ac ymddeoliad cywir i aelodau'r cyhoedd trwy ddarparu'r gwasanaeth Pension Wise ar sail teleffoni.
  • Ymateb yn rhagweithiol i alw cwsmeriaid, gan weithio yn unol â safonau cyflenwi gwasanaeth y cytunwyd arnynt.
  • Darparu gwybodaeth ddilynol amserol a chywir sy'n ychwanegu gwerth at y gwasanaethau a ddarperir ac sy'n glir ac yn hawdd ei deall.
  • Cyfrannu at rannu gwybodaeth dechnegol yn y swyddfa.
  • Darparu arweiniad pensiwn ar ein llinellau cymorth cenedlaethol a sianeli gwe-sgwrs
  • Cyfrannu at welliant parhaus ein gwasanaeth trwy waith prosiect achlysurol
  • Ymgymryd â gwaith allgymorth mewn digwyddiadau diwydiant pensiwn neu ddigwyddiadau corfforaethol unigol i ddarparu arweiniad ar faterion pensiwn cyffredinol neu benodol
  • Mynychu cyfarfodydd a gweithdai ac ati, o fewn cwmpas y rôl.


Profiad, gwybodaeth, a gofynion cymhwyster

  • Rhaid i chi fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.
  • Bydd gennych wybodaeth sylfaen dda o gyfraith ac ymarfer pensiynau ar draws ystod eang o drefniadau pensiwn a dealltwriaeth gadarn o faterion ymddeol ehangach.
  • Bydd y wybodaeth hon ynghyd â’ch ethos gwasanaeth cryf yn dangos yn eich gallu a’ch awydd i helpu aelodau’r cyhoedd trwy gyfieithu syniadau a phynciau cymhleth i Cymraeg a Saesneg clir.
  • Bydd eich ymrwymiad i ddatblygiad personol a phroffesiynol parhaus yn eich annog i ymgymryd â thasgau a hyfforddiant ychwanegol sy'n cefnogi'r tîm MaPS ehangach a'ch perfformiad yn y rôl.
  • Mae cymwysterau APMI neu CII neu gyfwerth mewn meysydd cysylltiedig yn ddymunol ond nid yn hanfodol.


Mae ein tîm o Arbenigwyr Pensiwn yn darparu'r gwasanaethau uchod i'r cyhoedd rhwng 8.00am ac 8.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, a 9.00am i 1.00pm ar ddydd Sadwrn. Fel cyflogwr hyblyg rydym yn agored i drafod pa batrymau gwaith sydd o fudd i'r ddwy ochr i ddiwallu ein hanghenion.

Gweithio i MaPS;

Wrth wraidd y Gwasanaeth Arian a Phensiynau mae ein gwerthoedd - gofalu, cysylltu a thrawsnewid, sy'n sylfaen i'n llwyddiant. Maent yn treiddio trwy bob maes o'n gwaith ac yn diffinio ein holl berthnasoedd busnes a'r ffordd rydym yn gweithio gyda'n gilydd. Rydym nid yn unig yn chwilio am y bobl orau i ddod i weithio i ni, ond mae arnom angen pobl sy'n alinio eu hunain â'n gwerthoedd.

  • Rydym yn gofalu am ein cydweithwyr a'r bobl rydym yma i drawsnewid eu bywydau.
  • Byddwn yn trawsnewid bywydau trwy ein gallu i wneud cysylltiadau cadarnhaol.
  • Rydym wedi ymrwymo i drawsnewid bywydau a chael effaith gymdeithasol gadarnhaol.


Rydym yn helpu pobl - yn enwedig y rhai mwyaf anghenus - i wella eu lles ariannol ac adeiladu dyfodol gwell, mwy hyderus. Gan weithio ar y cyd ledled y DU, rydym yn sicrhau y gall cwsmeriaid gael mynediad at arweiniad arian a phensiynau o ansawdd uchel a chyngor ar ddyledion trwy gydol eu bywydau, sut a phryd bynnag y maent eu hangen arnynt.

Trwy feithrin ein gwerthoedd, rydym yn falch iawn o'r amgylchedd gwaith cynhwysol yr ydym wedi'i greu. Rydym wedi ymrwymo i ddenu pobl o bob cefndir, rydym am i'n cydweithwyr adlewyrchu ein cwsmeriaid a'r bobl rydym yn eu cynorthwyo.

Yr hyn y gall y Gwasanaeth Arian a Phensiynau ei gynnig i chi:
  • Dilyniant a datblygiad gyrfa
  • Cynllun pensiwn - cyfraniadau'n cyfateb 2 i 1 (hyd at 10% o'ch cyflog)
  • Benthyciad di-log i'ch helpu i brynu tocynnau tymor ar gyfer bysiau a threnau
  • Cynllun Beicio i'r Gwaith
  • Prawf llygaid a phigiadau ffliw am ddim
  • Cynllun yswiriant bywyd
  • Cynllun rhoi wrth i chi ennill
  • Rhaglen cymorth gweithwyr (EAP)
  • Cynllun PAM Assist a PAM Life (Lles)
  • Ychwanegiad at dâl teulu a salwch
  • Gwirfoddoli â thâl (2 ddiwrnod y flwyddyn)
  • Cynllun Cydnabod
  • Porth gostyngiadau i nifer o fanwerthwyr


Os ydych eisoes yn gyflogai MaPS, ac fel rhan o’n Strategaeth Talent, rydym wedi ymrwymo i gryfhau cyfleoedd i’n pobl ddysgu, tyfu, datblygu a ffynnu. I lawer ohonoch, gall hyn fod yn paratoi ac yn gwneud cais am eich rôl nesaf gyda ni, ac rydym yn angerddol am sicrhau eich bod yn teimlo eich bod yn cael cefnogaeth trwy gydol eich profiad recriwtio mewnol. Cysylltwch â ni os hoffech wybod mwy am rai o'r ffyrdd y gallem eich cefnogi trwy e-bostio .uk

Job Reference: MaPS00643

Close Date: 29^th July 2024

Os ydych eisoes yn gyflogai MaPS, ac fel rhan o’n Strategaeth Talent, rydym wedi ymrwymo i gryfhau cyfleoedd i’n pobl ddysgu, tyfu, datblygu a ffynnu. I lawer ohonoch, gall hyn fod yn paratoi ac yn gwneud...

Reference: 53000512

Please note Reed.co.uk does not communicate with candidates via Whatsapp, and we will never ask you to provide your bank, passport or driving licence details during the application process. To stay safe in your job search and flexible work, we recommend visiting JobsAware, a non-profit, joint industry and law enforcement organisation working to combat labour market abuse. Visit the JobsAware website for information and free expert advice for safer work.

Report this job

Not quite what you are looking for? Try these similar searches