Cadeirydd

Posted 7 May by Acorn by Synergie
Easy Apply

Register and upload your CV to apply with just one click

Mae S&you yn recriwtio Cadeirydd ar hyn o bryd ar ran Partneriaeth Actif Canolbarth y De (PACD).

Mae hon yn siwrnai at newid y tirlun chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol ledled Cymru a sut mae chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu cyflwyno. Y nod yw creu newid sylweddol mewn lefelau chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymhlith pobl Cymru. Gyda'n gilydd, rydyn ni wedi ymrwymo i gael mwy o bobl i fod yn actif drwy chwaraeon a gweithgarwch corfforol er mwyn i ni gyflawni ein gweledigaeth:

"Creu newid sylweddol yn iechyd a lles ein cymunedau lleol ni drwy gydweithio ar draws y rhanbarth, fel ein bod gyda'n gilydd yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb ac yn gwella lefelau gweithgarwch."

Bydd PACD yn gweithredu fel cwmni cyfyngedig drwy warant (gyda'r potensial i fabwysiadu statws elusennol ar yr amser priodol), o fewn fframwaith llywodraethu cadarn a thryloyw. Wrth galon y Bartneriaeth bydd Bwrdd cytbwys, cynhwysol, amrywiol a medrus a fydd yn canolbwyntio ar ein cyfeiriad strategol.

Gan gynnwys swydd y Cadeirydd, bydd y Bwrdd yn penodi rhwng chwech ac wyth aelod i adlewyrchu diddordebau'r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol a'r sgiliau a'r arbenigedd sydd eu hangen i gyflawni uchelgais Canolbarth De Cymru.

Manylion Allweddol

Lleoliad: Bydd lleoliad y cyfarfodydd yn newid am yn ail ar draws cyfleusterau partneriaid yng Nghanolbarth De Cymru.

Tymor: Pedair blynedd gydag ail dymor (yn amodol ar gymeradwyaeth) o dair blynedd.

Tâl: £5,000 y flwyddyn, ynghyd ag unrhyw gostau rhesymol sy'n codi wrth gyflawni dyletswyddau yn unol â Pholisi Cyllid a Gweinyddu PACD.

Ymrwymiad: I ddechrau bydd y Bwrdd yn cyfarfod yn fisol, ond bydd yr amledd yn cael ei adolygu yn dilyn y chwe mis cyntaf o weithredu wrth iddo ddod yn fwy sefydledig.

Pwrpas

Prif rôl Bwrdd PACD yw sicrhau bod cyfeiriad strategol ac amcanion PACD yn cael eu datblygu, monitro perfformiad a defnyddio gwybodaeth a dysg i wella a thargedu ei darpariaeth yn barhaus. Bydd PACD yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru i fuddsoddi yn y rhanbarth yn flynyddol.

Rôl y Cadeirydd

Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd profiadol, trawsnewidiol a all helpu i lunio dyfodol chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghanolbarth De Cymru. Rydyn ni'n chwilio am unigolyn ysbrydoledig sy'n angerddol am werth ac effaith chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol a'r gred y dylai pawb fod yn actif gyda'i gilydd, am oes. Bydd hon yn rôl proffil uchel, yn dylanwadu ar bolisi a strategaeth ranbarthol a chenedlaethol ac ar flaen y gad o ran dylunio a datblygu chwaraeon a gweithgarwch corfforol cymunedol yng Nghymru.

Gan weithio gyda'r Tîm Gweithredol, rôl y Cadeirydd yw darparu arweinyddiaeth effeithiol a chyfeiriad strategol, gan ganolbwyntio ar weledigaeth, gwerthoedd craidd, llywodraethu ac amcanion PACD gan sicrhau'r canlynol:

  • Mae gweledigaeth glir, cyfeiriad strategol ac amcanion ar gyfer y rhanbarth.
  • Mae digon o adnoddau cynaliadwy i gyflawni'r cynllun strategol hyd at 2028 a thu hwnt. Mae hyn yn cynnwys y gallu i arallgyfeirio ffrydiau refeniw, gan gynnwys cyllid a chyfleoedd masnachol gyda phartneriaid a noddwyr, a hefyd sicrhau bod gan y sefydliad reolaeth a chysylltiadau rhanddeiliaid rhagorol.
  • Mae'r Bwrdd yn canolbwyntio ar berfformiad sefydliadol, cynaliadwyedd ariannol a chyflawni ei nodau a'i amcanion corfforaethol.
  • Cynhelir y safonau uchaf o ran llywodraethu corfforaethol a thegwch, a chydymffurfir â'r holl ofynion cyfreithiol a rheoleiddiol.
  • Mae cyfathrebu effeithiol rhwng Aelodau'r Bwrdd a'r Tîm Gweithredol.
  • Mae'r Arweinydd Strategol Rhanbarthol yn cael ei reoli, ei arwain a'i gefnogi.

Manyleb y Person

  • Tystiolaeth o lwyddiant, o fewn neu'r tu allan i'r sector chwaraeon a gweithgarwch corfforol, mewn sefydliad rhanbarthol neu gydweithredol, Elusen, amgylchedd Corfforaethol, Iechyd, Tai, Addysg, Cydraddoldeb neu Wasanaethau Proffesiynol.
  • Ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r problemau sy'n wynebu cymunedau yng Nghanolbarth De Cymru.
  • Tystiolaeth o arweinyddiaeth eithriadol.
  • Tystiolaeth o arwain mewn amgylchedd o newid.
  • Tystiolaeth o fod yn aelod o Fyrddau eraill, neu reolaeth arall, lle'r oedd arweinyddiaeth a chynllunio strategol yn rhan o'r rôl.
  • Tystiolaeth o'r gallu i weithredu gyda phroffesiynoldeb a gonestrwydd, a gydag athroniaeth gref o degwch, cynhwysiant ac amrywiaeth
  • Dealltwriaeth o sector chwaraeon Cymru a'r heriau sy'n wynebu sefydliadau chwaraeon ar lefel ddomestig a / neu ryngwladol (dymunol).
  • Profiad o Lywodraethu Cyfreithiol a Chorfforaethol (dymunol).
  • Siaradwr Cymraeg (dymunol).

Y Broses Ymgeisio

Dyddiad Cau: Hanner nos ar y 26ain o Fai 2024

Dyddiadau'r Cyfweliadau: Dydd Iau 13eg o Fehefin 2024

Gwnewch gais ar-lein a bydd ymgynghorydd o S&you yn cysylltu â chi i ddweud mwy wrthych chi ac i drafod y camau nesaf. Cofiwch, fel rhan o'ch cais, bydd gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

  1. CV wedi'i ddiweddaru
  2. Datganiad ategol (Uchafswm o 1 Dudalen A4) yn nodi pam yr hoffech ymuno â'r bartneriaeth a pham rydych chi'n credu y byddech yn gwneud ymgeisydd credadwy, gan gyfeirio at y gofynion sydd ym manyleb y person.

Acorn by Synergie acts as an employment agency for permanent recruitment.

Required skills

  • Sports
  • Trustee
  • Board Member
  • NED
  • Chair
  • Non-Executive

Reference: 52597954

Please note Reed.co.uk does not communicate with candidates via Whatsapp, and we will never ask you to provide your bank, passport or driving licence details during the application process. To stay safe in your job search and flexible work, we recommend visiting JobsAware, a non-profit, joint industry and law enforcement organisation working to combat labour market abuse. Visit the JobsAware website for information and free expert advice for safer work.

Report this job

Not quite what you are looking for? Try these similar searches